Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu eitemau a fydd yn helpu i greu gardd iard therapiwtig sy'n gyfeillgar i ddementia yn uned iechyd meddwl Caebryn yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae elusen y GIG wedi cefnogi prynu seddi a phlanhigion diogel, gwydn a phriodol ar gyfer yr ardd. Mae’r eitemau wedi helpu i greu amgylchedd awyr agored llawn synhwyrau, hygyrch a thawel i unigolion sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n profi cyflyrau iechyd meddwl cymhleth.
Mae'r ardal awyr agored wedi'i hintegreiddio â'r gegin therapi galwedigaethol ac fe'i defnyddir ar gyfer asesiad therapi galwedigaethol arbenigol a therapi i gleifion cymunedol a chleifion mewnol, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau.
Siaradodd Emma Dobson, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn, am sut mae cleifion yn profi buddion therapiwtig gwell pan fydd ganddynt fynediad i amgylchedd diogel, synhwyraidd wedi'i ddylunio.
Meddai: “Mae’r gofod awyr agored yn cefnogi ymyriadau therapiwtig grŵp a sesiynau therapi un-i-un, tra hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio byrfyfyr gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dangoswyd bod mynediad i amgylcheddau naturiol yn gwella hwyliau, yn lleihau straen ac yn cynyddu ymgysylltiad â phobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau iechyd meddwl eraill.
“Mae’r eitemau a ariannwyd wedi ein helpu i greu amgylchedd gofal ystyrlon wedi’i optimeiddio’n bwrpasol sy’n cefnogi lles emosiynol, ysgogiad gwybyddol ac ymlacio, tra hefyd yn annog rhyngweithio cymdeithasol ac ymgysylltu therapiwtig.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i roddwyr i Elusennau Iechyd Hywel Dda am helpu i wneud i hyn ddigwydd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r rhoddion hael a dderbyniwn yn cael eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG fel amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hael a gawn, sy’n ein galluogi i ariannu gwelliannau fel y seddi a’r potiau newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.”