Yn y llun: Llun 1: Gweithiwr Gofal Iechyd a Chymorth yn dangos sut mae'r gwelyau'n gweithio.
Llun 2: Tad ar un o'r cadeiriau newydd.
Bydd y cadeiriau newydd yn cael eu gosod mewn ystafelloedd ôl-enedigol, gan helpu teuluoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl genedigaeth wrth roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ychwanegol i famau.
Dywedodd Rucha Eldridge, Uwch Fydwraig ar Ward Gwenllian: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion caredig i Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ein galluogi i ariannu’r cadeiriau newydd hyn.”
“Mae croesawu babi newydd yn gyfnod arbennig i deuluoedd, a gall cael partner yn agos wneud gwahaniaeth enfawr i adferiad a lles y fam.
“Bydd y cadeiriau lledorwedd newydd hyn yn galluogi partneriaid i aros dros nos yn gyfforddus, gan eu galluogi i gynnig cefnogaeth emosiynol barhaus, helpu i ofalu am eu baban newydd-anedig, a rhannu’r eiliadau cyntaf pwysig hynny gyda’i gilydd fel teulu.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi teuluoedd newydd ar Ward Gwenllian drwy ddarparu’r cadeiriau hyn.”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”