Neidio i'r prif gynnwy

Y Gronfa Dymuniadau

A allwch helpu plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n bygwth bywyd i greu atgofion hudolus?

Pan fo plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn byw â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n bygwth bywyd, gall hyn amharu ar lawenydd plentyndod a bywyd teuluol a'u rhwystro.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi partneru â Rygbi'r Scarlets (agor mewn dolen newydd) i gyflwyno ymgyrch newydd: y Gronfa Dymuniadau darllenwch ragor am ein partneriaeth yma (agor mewn dolen newydd).  Mae’r Gronfa Dymuniadau yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd lunio eiliadau hudolus y gellir cofio amdanynt am byth.

 

 

Ynghylch Y Gronfa Dymuniadau

 

Mae ymgyrch y Gronfa Dymuniadau yn codi arian ar gyfer y gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig.

Mae’r gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig yn gofalu am blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn bygwth bywyd. Nod y gwasanaeth yw rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc brofi'r ansawdd bywyd gorau posibl, er y gall eu bywydau gael eu byrhau.

Mae’r gronfa dymuniadau yn helpu’r gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig i greu atgofion parhaol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd y mae yn eu cefnogi. Gall hyn gynnwys:

  • trefnu gweithgareddau arbennig i greu atgofion hirhoedlog, megis gweithgareddau grŵp a theithiau diwrnod i'r teulu 
  • darparu teganau a deunyddiau celf a chrefft ar gyfer ein gwasanaeth chwarae therapiwtig i helpu plant a phobl ifanc brosesu a deall yr hyn y maent yn ei brofi
  • darparu llyfrau cydymdeimlad personol a Thedi Bêrs Bydd yn Ddewr ar gyfer brodyr a chwiorydd.

Mae’r Gronfa Dymuniadau hefyd yn darparu mentrau llesiant a gwasanaethau ychwanegol i’r teulu cyfan.

Mae hyn oll yn wariant y tu hwnt i wariant craidd y GIG.

 

 

 

Sut y gallaf gefnogi'r gronfa dymuniadau?

 

Gall eich cefnogaeth i’r gronfa dymuniadau, ni waeth pa mor fawr neu fach, helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn bygwth bywyd, a’u teuluoedd.

Gallwch gefnogi’r gronfa dymuniadau trwy wneud y canlynol:

Rhoi cyfraniad

I roi cyfraniad ar-lein, cliciwch yma.

Gallwch hefyd gyfrannu trwy'r post: gwnewch bob siec yn daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ (ysgrifennwch ‘Y Gronfa Dymuniadau’ ar gefn eich siec) a’i hanfon i Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB.

Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt, a pcliciwch ar y botwm isodheidiwch ag anfon arian parod yn y post.

Gellir darparu manylion banc ar gyfer BACS/trosglwyddiadau banc ar-lein ar gais. Ffoniwch ni ar 01267 239815 neu anfonwch neges e-bost i CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk.

Dod yn godwr arian

Gallwch hefyd gefnogi'r ymgyrch trwy godi arian.

Efallai y byddwch am godi arian trwy greu eich atgofion hudolus eich hun: gall hyn fod trwy ddringo mynydd, rhedeg marathon, cynnal te parti, neu gyflawni nod sydd wedi bod gennych mewn golwg ers tro. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Trwy ddefnyddio’r ddolen isod a chlicio ar y botwm ‘Codi Arian i ni', drwy glicio yma a defnyddio'r botwm 'codi arian i ni' (agor mewn dolen newydd)

I drafod unrhyw syniadau sydd gennych, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.

 

 

Pa wahaniaeth y bydd fy rhodd yn ei wneud?

Pa swm bynnag y byddwch yn ei godi neu'n ei roi, bydd eich arian yn cael effaith.

Er enghraifft:

  • Mae £5 yn talu am sticeri 3D i blant i fywiogi eu diwrnod yn ystod triniaeth yn yr ysbyty
  • Mae £15 yn talu am fidgets a poppets – teganau synhwyraidd sy’n adnodd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • Mae £25 yn talu am fynediad i leoliad llawn hwyl ar wibdaith, megis Folly Farm
  • Mae £50 yn talu am Dedi Bêrs Bydd yn Ddewr i frodyr a chwiorydd, sy'n cynnig cysur a chymorth ar adegau anodd ac mewn profedigaeth
  • Mae £75 yn talu am declyn tynnu sylw Buzzy Bee ar gyfer plant a phobl ifanc a dderbynnir i gael profion gwaed a phrosesau pibellu. Mae hwn yn atal poen trwy'r defnydd o dymheredd a symudiad
  • Mae £150 yn talu am drip undydd bendigedig i grŵp bach
  • Mae £200 yn talu am flychau synhwyraidd sy'n cynnwys casgliad o deganau a deunyddiau sy'n darparu ysgogiadau penodol i blant a phobl ifanc.

Diolch i chi am roi atgofion i deuluoedd sy'n para am oes!

Dilynwch ni: