Yn y llun: Delweddau o fan orffwys y staff.
Mae'r elusen wedi ariannu gwaith adnewyddu ar ystafell staff yr uned, gan gynnwys oergell-rewgell newydd, cypyrddau cegin, lle storio ychwanegol, ail-addurno a dodrefn newydd, gan greu amgylchedd mwy cyfforddus a chroesawgar i'r staff yn ystod eu hegwyl.
Dywedodd Marie Williams, Uwch Brif Nyrs: “Mae cael lle cyfforddus i ffwrdd o’r amgylchedd clinigol yn hynod bwysig i’n tîm. Mae’r uned yn hynod brysur, a gall y gallu i gamu i ffwrdd, cael egwyl a threulio amser gyda chydweithwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod y diwrnod gwaith.”
“Rydym yn hynod ddiolchgar i gefnogwyr hael yr elusen am wneud hyn yn bosibl. Mae’r ystafell wedi’i hadnewyddu yn cynnig amgylchedd llawer mwy croesawgar i’r staff, a bydd ein tîm yn ei mwynhau am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Hywel Dda Health Charities – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cefnogi staff yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip drwy ariannu’r gwelliannau hyn.”
“Mae gofod cyfforddus a chroesawgar, lle gall staff orffwys ac adfer eu hegni, yn bwysig – yn enwedig mewn amgylchedd clinigol prysur. Mae cefnogi lles ein gweithlu yn y GIG yn helpu i greu'r amodau sy'n galluogi staff i barhau i ddarparu gofal rhagorol i gleifion.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”