Neidio i'r prif gynnwy

Apel Gerddi Ysbyty Tywysog Philip

Ymunwch â mi i helpu i godi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd ar gyfer ein cleifion hŷn yn Ysbyty Tywysog Philip

Rwy'n gwybod cystal ag unrhyw un pa mor bwysig yw hi i'ch iechyd corfforol a meddyliol i fynd allan i'r awyr iach. Hoffwn ofyn am eich help i roi mynediad i fannau gwyrdd therapiwtig i rai o’r cleifion mwyaf bregus yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

 

Nod ein Hapêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip yw ariannu gerddi newydd i gleifion mewn:

  • Ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely
  • Ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely.

Mae'r wardiau wedi'u lleoli drws nesaf i'w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i le awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw'r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw'n addas ar gyfer cleifion.

 

 

Helpu cleifion fel Clare i elwa ar bŵer natur. Bydd y gerddi newydd yn cefnogi adferiad ac yn hybu lles trwy ddarparu mannau diogel, llawen ac iachusol lle gall ein cleifion hŷn fwynhau awyr iach, ymarfer corff a theimlo’n agos at natur. Bydd y gerddi hefyd yn darparu amgylchedd tawel i staff ac ymwelwyr.

Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr i gleifion yn Ysbyty’r Tywysog Philip. I gael gwybod sut, dilynwch y dolenni isod.

Diolch am eich cefnogaeth!

Nigel Owens

 

Dilynwch ni: