Yn y llun uchod: Jenny Kitchell y tu allan i'r Gadeirlan yn Santiago ar ddiwrnod olaf y daith gerdded.
Cychwynnodd y cwpl, sy'n byw yn Nhyddewi, o St Jean Pied de Port yng Ngwlad y Basg ar y 27ain o Fai, gan orffen yn yr eglwys gadeiriol yn Santiago de Compostela ar y 30ain o Fehefin.
Cafodd Jenny ddiagnosis o ganser y bledren yn 2024, ac ers hynny mae wedi bod yn derbyn triniaeth gan y tîm Wroleg yn Ysbyty Glangwili; y profiad hwnnw a’i hysbrydolodd i ymgymryd â’r her hon.
Wrth sôn am ei hymgyrch codi arian, dywedodd Jenny: “Roeddwn i a Tim wedi cynllunio mynd ar bererindod i Santiago de Compostela; cysegrwyd ei gadeirlan yn lle pererindod ym 1122, yr un pryd â’r gadeirlan yn Nhyddewi, lle rydw i wedi gweithio ers blynyddoedd lawer.”
“Cerddais y 500 milltir i gyd; anafwyd Tim ar ôl 440 milltir, felly cwblheais y pedwar cam olaf ar fy mhen fy hun. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi cerdded y Camino yn dweud wrthych, mae’n brofiad sy’n hynod flinedig ac eto’n rhyfeddol – y math o brofiad y gallwch ei ddychmygu – ac rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi gallu ei wneud.
“Codais ychydig dros £2,440 ar gyfer y Gwasanaethau Wroleg yn Glangwili. Rwy’n hynod ddiolchgar am y gofal a gefais wrth gael triniaeth ar gyfer canser y bledren yn ystod 2024, ac am y rhai a weinyddodd y driniaeth honno yn Adran Wroleg Glangwili dros gyfnod o fwy na 18 mis. Nid oes geiriau i ddisgrifio hynny. Fe wnaethant fy helpu i wella pan oedd y rhagolygon yn eithaf digalon, a gwnaethant hynny gyda medrusrwydd aruthrol, tynerwch a digon o hiwmor.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm llawfeddygol cyfan, y gweinyddwyr anesthetig a’r staff hynod garedig ar Ward 7 yn Ysbyty Tywysog Philip, a ofalodd amdanaf gyda charedigrwydd mawr.”
Dywedodd Angharad Watkins, Nyrs Arbenigol Glinigol mewn Wroleg: “Ar ran y Tîm Wroleg yn Ysbyty Glangwili, hoffem ddiolch yn ddiffuant am y rhodd hael. Gwerthfawrogir eich caredigrwydd yn fawr, a gallwn eich sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n dda i gefnogi a bod o fudd i gleifion sy'n derbyn gofal o fewn ein gwasanaeth.”
“Hoffem hefyd longyfarch Jenny a Tim ar eu her wych – cerdded y Camino de Santiago, taith o 500 milltir. Am gamp ryfeddol!”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Ni allwn fynegi digon o ddiolch i Jenny a Tim am ymgymryd â her mor anhygoel er budd Gwasanaethau Wroleg Caerfyrddin.”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”