Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ (agor mewn dolen newydd)

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu: 

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin 
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver. 

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet (agor mewn dolen newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon 

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  1. Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  2. Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  3. Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  4. Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws

 

Adborth a chysylltu 

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu a ni dros y ffon neu ymweld a ni

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK (agor mewn dolen newydd). Os oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr ydych am gysylltu ag ef.

Mae gan rai o'n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw'ch ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd BSL ar-lein.

Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar:

Rhif ffôn: 18001 (os yn defnyddio Relay UK) ac yna 01554 899055
Ebost: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Yn y post:
Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Partneriaethau Strategol, Bloc 6, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli SA14 8QF

Ewch i dudalen y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i gael mwy o wybodaeth (agor mewn dolen newydd)

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.


Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (agor mewn dolen newydd), oherwydd  y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

 

  1. Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd wrth gael atynt trwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  2. Nid oes gan rywfaint o destun ddigon o gyferbynnedd â’i gefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, Cyferbynnedd (Lleiafswm) (Lefel AA)
  3. Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  4. Ni ellir defnyddio rhai rhannau o rai tudalennau yn llawn gyda’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1, Bysellfwrdd (Lefel A)
  5. Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A

 

 

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Papurau Bwrdd neu bwyllgorau
  • Adroddiadau perfformiad a allai gynnwys data adrodd/ystadegol cymhleth
  • Polisïau a gweithdrefnau wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau â dolen o’n tudalenau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu
  • Cyhoeddiadau a alla’i fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid eu gosod gan drydydd parti. 
     

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
  • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.

 

Cynnwys and yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis 30 Medi 2021, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (agor mewn dolen newydd) os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd (agor mewn dolen newydd). Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.

 

Awgrym enghreifftiol gan Gov.uk

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym dogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (agor mewn dolen newydd) os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio [enghraifft o ddogfen nad yw’n hanfodol].

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

 

Beth rydym yn wneud i wella hygyrchedd

Fel sefydliad, rydym yn:

  • gweithio gyda cydweithwyr i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hygyrchedd a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni'r rheoliadau;
  • annog ysgrifennu cynhwysol a darparu arweiniad ar gyfer gwneud cynnwys yn hygyrch;
  • annog defnyddio cynnwys HTML hygyrch lle bynnag y bo modd;
  • trosi dogfennau sy'n bodoli eisoes (lle bynnag y bo hynny'n bosibl) i gynnwys HTML gan ganolbwyntio ar ein cynnwys a ddefnyddir amlaf;
  • cynnwys hygyrchedd fel rhan o’n proses wirio derfynol cyn cyhoeddi;
  • gweithio gyda'n cydweithwyr gwasanaethau digidol i ddod o hyd i ateb ar gyfer ffurflenni ar-lein.

Byddwn yn:

  • cynhyrchu templedi a chanllawiau ‘sut i’ ar gyfer cynnwys na ellir ei gyhoeddi ar ffurf HTML;
  • cynnal ‘hapwiriadau’ ar dudalennau a dogfennau cyhoeddedig i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl.

Paratowyd y dudalen hon ym mis Ebrill 2021, wedi'i adolygu ym mis Ebrill 2022. Cynhelir yr adolygiad nesaf ym mis 30 Medi 2022.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn 01/2023, a adolygu yn 01/2024.

Profwyd y wefan hon yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2019 ac yna ailbrowyd ym mis Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dilynwch ni: