Yn y llun uchod: Lilly Edwards.
Mae merch naw oed o Lanon yn ymgymryd â'r her o ddringo'r Wyddfa i godi arian ar gyfer Gwasanaeth Diabetes Pediatreg Hywel Dda a ofalodd amdani yn dilyn ei diagnosis o ddiabetes.
Mae Lilly Edwards, sy'n mynychu'r ysgol yn Aberystwyth a bydd yn dechrau Blwyddyn 5 ym mis Medi, yn barod i ddringo'r mynydd ar 12 Medi 2026 ochr yn ochr â'i theulu a'i ffrindiau.
Dywedodd Catrin Edwards, Mam Lilly: “Ym mis Gorffennaf 2026, cafodd ein merch Lilly ddiagnosis o ddiabetes math 1. Roedd yn gyfnod brawychus i'n teulu, ond roedd y gofal, y caredigrwydd a'r gefnogaeth a gawsom gan y tîm diabetes yn Ysbyty Glangwili yn anhygoel.
“Er gwaethaf popeth, mae Lilly wedi wynebu ei diagnosis gyda dewrder a phenderfyniad rhyfeddol. I ddiolch i'r tîm sydd wedi'i helpu, ac i ddangos na fydd diabetes yn ei hatal rhag cyflawni pethau mawr, mae hi'n ymgymryd â'r her o ddringo'r Wyddfa. Rydym mor falch ohoni ac yn ddiolchgar i bawb sy'n cefnogi ei thaith.
“Mae'r ddringfa hon yn fwy na dim ond taith gerdded i fyny mynydd. I Lilly, mae'n cynrychioli cryfder, gobaith, a phrofi iddi hi ei hun na fydd diabetes byth yn ei hatal rhag gwneud pethau mawr mewn bywyd.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Pob lwc a diolch, Lilly! Dim ond dau fis ar ôl i ti gael diagnosis o ddiabetes math 1, rwyt ti eisoes yn dangos dewrder anhygoel trwy ddringo yr Wyddfa. Mae pob cam rwyt ti yn ei ddringo yn helpu i godi arian ac yn ysbrydoli eraill. Rydym ni i gyd yn dy gefnogi i'r copa!
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym ni'n hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae Lilly yn anelu at godi £700 ar gyfer y gwasanaeth. Cefnogwch hi trwy gyfrannu yma:https://www.justgiving.com/page/catrin-edwards-1