Ymunwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda ym mis Hydref i redeg fel nad ydych erioed wedi rhedeg o’r blaen yn y ras ffordd wastad, gyflym, eiconig o amgylch prifddinas Cymru!
Mae Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air (agor mewn dolen newydd) wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous yn y Deyrnas Unedig. Mae bellach yn un o hanner marathonau mwyaf Ewrop a dyma ddigwyddiad cyfranogiad torfol a chodi arian aml-elusen mwyaf Cymru.
Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Mae mynediad yn agored i gadeiriau olwyn. I gystadlu, dilynwch y camau isod:
Yna byddwch yn derbyn e-bost oddi wrthym yn cadarnhau eich lle, a byddwn yn cysylltu â chi i'ch helpu i godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol!
Mae pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad.
Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif a medal at bob ymgeisydd.
Gofynnwn i chi addo codi isafswm o £250 mewn nawdd i’n helusen. Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.