Taith dafarndai mewn gwisg ffansi yn codi £2,720 ar gyfer gwasanaethau canser lleol

Yn y llun uchod: Michelle Rossiter; Susan Partridge Leach; Saira Khawaja, Llawfeddyg y Fron Oncoplastig Ymgynghorol; Karen Nelson, Nyrs Arbenigol y fron; a Mandy Richards Williams.

 

Mae grŵp o ffrindiau o Lanelli wedi codi swm anhygoel o £1,360 ar gyfer yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Prince Philip, ar ôl cwblhau taith dafarnau mewn gwisg ffansi o Ben-bre i Lanelli.

Ymgymrodd y grŵp â'r her dros benwythnos Gŵyl Banc Awst, gan gerdded o dafarn i dafarn wedi gwisgo fel bananas a chasglu rhoddion ar hyd y ffordd.

Gan ddechrau am hanner dydd ddydd Sul, 30 Awst, a gorffen am 1 y bore drannoeth, ymwelodd y ffrindiau â 28 tafarn rhwng Pen-bre a Llanelli, gan ddod â llawer o hwyl, chwerthin ac ysbryd codi arian i bob man yr aethant iddo.

Mae'r ymdrech hon i godi arian yn dilyn eu taith dafarnau yn 2025, pan wisgasant fel conau traffig i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal y Fron.

 

Dywedodd Susan Partridge Leach, a helpodd i drefnu'r digwyddiad: “Penderfynon ni gefnogi achosion yn ymwneud â chanser y fron a chanser y brostad oherwydd bod gennym ffrindiau sydd wedi profi'r ddau ac wedi derbyn gofal a thriniaeth mor rhyfeddol. Rydym bob amser yn hoffi cefnogi elusennau sydd wedi helpu pobl rydym yn eu hadnabod ac yn eu caru.

"Roedd y daith gerdded yn anhygoel. Cawsom i gyd gymaint o hwyl, a daethom â llawer o hwyl i bob tafarn yr ymwelwyd â hi. Roedd pobl yn hynod hael, boed hynny drwy roi arian ar-lein neu drwy roi arian yn y bwced casglu roeddem yn ei gario gyda ni drwy gydol y dydd.

"Roedd yn heriol ar adegau, ond roedd hefyd fel therapi. Chwarddasom, sgwrsio, cwrdd â chymaint o bobl hyfryd a chreu atgofion gwych ar hyd y ffordd."

Dywedodd Saira Khawaja, Llawfeddyg Oncoplastig y Fron: "Diolch i bawb sy'n codi arian i'r elusen am eich ymroddiad, eich haelioni, a'ch cefnogaeth ddi-baid i Uned Gofal y Fron Peoni. Mae eich ymdrechion a'ch ymrwymiad yn parhau i wneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae'r arian a godwyd yn helpu i ddarparu offer o'r radd flaenaf, sy'n ein galluogi i ddarparu'r safon uchaf o ofal i'n cleifion.

"Mae eich cefnogaeth yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan bawb yn yr Uned Gofal y Fron."

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: "Unwaith eto, mae Susan a'i ffrindiau wedi dod â hwyl i'r gwaith o godi arian, ac wedi dangos y gwahaniaeth anhygoel y gall grŵp o ffrindiau penderfynol ei wneud. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

"Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."