Diolch i'ch rhoddion, rydym yn gallu darparu'r offer meddygol mwyaf diweddar ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Yn ddiweddar, rydym wedi ariannu 10 monitor Holter Eclipse Pro gwerth dros £8,300 i'w defnyddio yn yr Adran Cardio-anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae monitorau Holter symudol yn ddyfeisiau meddygol bach, cryno sy'n caniatáu asesu cyfradd curiad calon a rhythm (ECG) claf am gyfnod parhaus o amser o fewn neu y tu allan i amgylchedd yr ysbyty.
Dywedodd Llinos Millard, Rheolwr Gwyddor Gofal Iechyd Cardiaidd ac Anadlol: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu 10 monitor Holter symudol newydd. Rydym yn gallu cynnig monitro ECG o ansawdd uchel gyda nodweddion diagnostig uwch.
“Gall ansawdd uwch y data a gesglir sicrhau cywirdeb gwell wrth ddadansoddi cofnod y claf, gan ein galluogi i ddarparu cynllun triniaeth mwy trylwyr, amserol a chywir i'r claf. Mae'r monitorau newydd hyn yn darparu galluoedd monitro estynedig, gan ganiatáu asesiad cardiaidd cynhwysfawr dros gyfnodau hirach.”