Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â Loteri

Ymunwch â loteri Elusennau Iechyd Hywel Dda a helpwch i wneud lot o wahaniaeth i'ch elusen GIG! 

Mae ein loteri yn rhoi cyfle i chi ennill hyd at £25,000 bob wythnos. 

Am ddim ond £1 y tro, fe allech chi fod â siawns o ennill hyd at £25,000. Nid yn unig y cewch gyfle i ennill, ond byddwch hefyd yn helpu i godi arian ar gyfer eich elusen GIG. Rydym yn defnyddio'r cronfeydd hyn i wneud gwahaniaeth positif i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled ein hardal. 

Am bob £1, daw o leiaf 50c yn uniongyrchol i Elusennau Iechyd Hywel Dda i'n helpu i ddarparu'r ychydig pethau ychwanegol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. 

Sut mae’n gweithio 

Pan ymunwch â loteri Elusennau Iechyd Hywel Dda, dyrennir rhif loteri chwe digid unigryw i chi. Tynnir rhif buddugol ar hap bob dydd Gwener a'r nod yw cyfateb y rhifau buddugol. 

Cydweddwch chwe digid i ennill y wobr jacpot wythnosol o £25,000. Cydweddwch bum digid i ennill £1,000 neu bedwar digid i ennill £25. Mae cydweddu tri digid yn ennill pum cais am ddim i'r raffl nesaf.  

Mae'r loteri ar agor i bawb dros 18 oed. Cliciwch yma i ymuno â’n loteri (agor mewn dolen newydd)

Pob lwc a diolch am gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda! 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am chwarae'r loteri, cysylltwch â ni yn CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk neu ar 01267 239 815. 

Am delerau ac amodau llawn ewch i dudalen Unity Lottery yma (yn agor mewn dolen newydd)

Chwaraewch yn gyfrifo. Mae BeGambleAware yn cynnig cymorth a chefnogaeth  gyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am eu gamblo. I gael help gan BeGambleAware cliciwch yma i ymweld â'u gwefan (yn agor mewn dolen newydd) 

Hyrwyddwr y Loteri Undod hon yw Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Dderwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi’i drwyddedu a’i reoleiddio ym Mhrydain Fawr gan Gyngor Sir Caerfyrddin o dan y rhif cyfrif LOTT 1302.

Mae o leiaf 50% o gyfanswm elw’r loteri yn mynd tuag at gefnogi’r gwaith a wneir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, 18.4% ar wobrau a 31.6% ar dreuliau a gweinyddu’r loteri.

Dilynwch ni: