Noson rasio ceffylau yn codi dros £2,000 ar gyfer uned cemotherapi Bronglais

Yn y llun uchod: Denise Barron gyda staff o'r Uned Cemotherapi ym Mronglais.

 

Mae noson rasio ceffylau elusennol, a gynhaliwyd er cof am frawd annwyl iawn, wedi codi £2,027.30 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.

Trefnodd Denise Barron, sy'n gweithio yn Ysbyty Bronglais, y digwyddiad codi arian yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ar y 9fed o Hydref 2026, gan ddod â busnesau lleol, cefnogwyr, teulu a ffrindiau ynghyd i ddathlu bywyd ei brawd, Colin Williams, a fu farw'n anffodus yn 2024.

Cefnogodd y digwyddiad codi arian hefyd Action for Pulmonary Fibrosis.

Dywedodd Denise: “Codais arian er cof am fy mrawd, y diweddar Colin Williams, a fu farw yn 2024, ac i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed yn y nefoedd fis Medi eleni. Roedd yn ffordd gadarnhaol o godi ymwybyddiaeth o’r ddau achos.”

“Trefnais noson rasio ceffylau er budd elusen, a oedd yn cynnwys arwerthiant, raffl a disgo. Noddwyd pob ras gan nifer o fusnesau lleol; cafodd wobrau eu darparu ar gyfer yr arwerthiant a'r raffl, yn ogystal â photeli o win 'port' i godi gwydraid er cof am fy mrawd. Roedd un o'r gwobrau yn dod gan dîm pêl-droed hoffus fy mrawd, Liverpool FC.

“Aeth y rhan fwyaf o'r arian a godwyd i Action for Pulmonary Fibrosis, gan ei fod yn dioddef o ffibrosis yr ysgyfaint a achoswyd gan radiotherapi; aeth y gweddill i Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais, lle cafodd fy mrawd ofal a thriniaeth ardderchog ar gyfer canser yr ysgyfaint yn 2016.

“Roedd y digwyddiad codi arian yn golygu llawer o waith caled, ond roedd yn bendant yn werth chweil gan y bydd yn helpu llawer o bobl; mae hyn hefyd wedi fy helpu yn fy mhroses o alaru, trwy droi rhywbeth mor negyddol yn ganlyniad cadarnhaol iawn.

“Mae gormod o bobl i’w diolch yn unigol. Ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosibl heb yr holl gefnogaeth gan bawb a fynychodd, a gyfrannodd wobrau neu eu hamser, a roddodd arian, a noddodd y rasys, a brynodd docynnau raffl, ac a gynorthwyodd gyda’r digwyddiad.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a’u haelioni, yn enwedig gan fod cyfnodau’n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw presennol.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Denise am drefnu’r noson rasio elusennol arbennig hon er cof am Colin Williams. Gwerthfawrogir eich ymroddiad a’ch haelioni wrth gefnogi Uned Cemotherapi Bronglais yn fawr, ac rydym yn teimlo’n anrhydeddus o gael bod yn rhan o deyrnged mor addas i Colin. Diolch am wneud gwahaniaeth i gleifion lleol a’u teuluoedd.”

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”