Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrannwch wrth i chi siopa

Cronfa Gymunedol Leol Co-op

Cefnogir Elusennau Iechyd Hywel Dda gan Gronfa Gymunedol Leol Co-op. Mae 2c o bob punt sy'n cael ei gwario ar gynnyrch brand Co-op dethol yn mynd i sefydliadau ac achosion cymunedol lleol fel ni.

I gefnogi eich elusen GIG, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho ap Co-op a'n dewis ni fel eich achos newydd

Mae’r arian a godir yn mynd tuag at y Gronfa Ddymuniadau sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd wneud eiliadau hudolus.

Mae'r ddolen hon yn (agor mewn dolen newydd) mynd â chi'n uniongyrchol at ein hachos.

 

Easyfundraising

Gallwch gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda am DDIM drwy ymuno â Easyfundraising. Gallwch godi rhoddion pryd bynnag y byddwch yn siopa ar-lein gyda dros 7,000 o frandiau gan gynnwys John Lewis & Partners, eBay, Argos, M&S a mwy. Hefyd, ar ôl i chi godi eich £5 cyntaf, bydd Easyfundraising yn ei ddyblu! Cofrestrwch heddiw - bydd yn gwneud gwahaniaeth MAWR i ni eleni! Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i'r dudalen Easyfundraising (yn agor yn tab newydd)

 

Tesco

Gallwch gefnogi #EichEluseGIG trwy ddefnyddio'r cynllun pleidleisio tocyn glas yn y siopau Tesco sy'n cymryd rhan, sef siopau Aberystwyth, Llanelli Extra ac archfarchnad Pondarddulais.

Dyma’ch cyfle i helpu i ariannu Pecynnau Cwmwl Canser sydd wedi’u cynllunio i helpu plant a phobl ifanc hyd at 16 oed i ddeall beth yw #canser, y triniaethau a roddir a’r sgil-effeithiau y gallent eu hachosi.

Mae'r pecynnau'n gymorth gwirioneddol i gael sgyrsiau anodd ac yn helpu'r teulu i reoli'r effaith emosiynol y gall diagnosis canser ei chael.

Dilynwch ni: