Neidio i'r prif gynnwy

Taith Gerdded Tân Dan Draed Dydd Gŵyl Dewi 2027

 

Cerddwch yn droednoeth ar draws cols. Codwch arian i'ch GIG. Darganfyddwch eich tân mewnol!

Ydych chi'n barod i herio'ch hun fel erioed o'r blaen?

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 27 Chwefror 2027 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer Taith Gerdded Tân dan Draed Dydd Gŵyl Dewi – profiad cyffrous lle byddwch chi'n cerdded yn droednoeth ar draws pum metr o gols 800°C. Mae'n ddiogel, yn fythgofiadwy, ac yn grymuso'n fawr.

P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n chwilio am her bersonol neu'n dîm sy'n chwilio am brofiad bondio, y digwyddiad hwn yw'r un i chi.

 

Beth sy’n gynnwysiedig?

  • Hyfforddiant cerdded tân llawn ar y diwrnod
  • Cefnogaeth gyda'ch codi arian
  • Noson o adrenalin, cyflawniad ac ysbryd cymunedol!

 

Addewid codi arian

Mae ffi mynediad o £15 ac rydym yn gofyn i chi addo codi o leiaf £85 ar gyfer yr elusen. Gallwch ddewis codi arian ar gyfer ward, ysbyty neu wasanaeth penodol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda neu gallwch godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at wella profiadau cleifion, eu teuluoedd a staff y GIG ac ariannu eitemau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i ddarpariaeth safonol y GIG.

 

 

Beth am gyfyngiadau oedran?

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gymryd rhan.

 

Sut mae cofrestru?

Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. I gymryd rhan, dilynwch y camau isod:

Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen Taith Gerdded Tân dan Draed Enthuse lle byddwch yn talu eich ffi cofrestru digwyddiad o £15. Rhowch eich enw fel cyfeirnod. Ni ellir ad-dalu'r ffi.

• Pan fyddwch wedi gwneud eich taliad, llenwch y ffurflen archebu, cliciwch ar 'taliad wedi'i wneud' ac yna cyflwynwch y ffurflen.

• Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen archebu wedi'i chwblhau a'ch taliad, byddwn yn cadarnhau eich lle drwy e-bost.

Mae pob un yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda cyn y digwyddiad ynghyd â chefnogaeth gyda'ch codi arian.

Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif at y sawl wnaeth gymryd rhan.

 

Am ragor o wybodaeth am y Tân Dan Draed, ewch i: (FAQ) – Frequently Asked Questions | Firewalk

 

🔥 Teimlwch y gwres. Dewch o hyd i'ch cryfder. Cefnogwch eich GIG. 🔥

 

Dilynwch ni: