Côr yn canu er budd uned cemotherapi Glangwili

Yn y llun uchod: Y côr gyda staff o'r Uned Dydd Cemotherapi.

 

Mae côr lleol wedi codi swm anhygoel o £3,000 ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, drwy ei gyngerdd codi arian blynyddol.

Mae Côr Llanpumsaint a'r Cylch yn grŵp cymysg ei llais wedi'i leoli yn ardal Cynwyl Elfed sy'n cyfarfod yn wythnosol o dan gyfarwyddyd yr arweinydd Gwyn Nicholas a'r cyfeilydd Lynn James. Yn ddiweddar croesawyd yr artistiaid gwadd Aled Wyn Thomas (tenor) a Caleb Nicholas (bariton) ar gyfer y digwyddiad codi arian arbennig.

Denodd y cyngerdd, a gynhaliwyd ym mis Mai 2026, gynulleidfa fawr ac roedd yn cynnwys rhaglen gofiadwy o gerddoriaeth. Un o uchafbwyntiau’r noson oedd perfformiad o Benedictus gan Robat Arwyn, yn cael ei chanu fel deuawd gan Aled Wyn Thomas a Caleb Nicholas. Daeth y cyngerdd i ben gyda'r côr yn perfformio trefniant Jeffrey Howard o'r emyn-dôn poblogaidd Gwahoddiad.

Dywedodd Gerwyn Rhys, Ysgrifennydd Côr Llanpumsaint a'r Cylch "Fe benderfynon ni fod yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili yn achos lleol hynod deilwng. Mae nifer o'n haelodau wedi derbyn triniaeth yn yr uned ac roedd yn bwysig i ni fod elw ein cyngerdd blynyddol yn cefnogi'r gofal a'r gwasanaethau a ddarperir yno."

“Roedd y cyngerdd yn noson gofiadwy, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi £3,000. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd, ein hartistiaid gwadd, ein harweinydd Gwyn Nicholas, y cyfeilydd Lynn James, a phawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.

“Hoffem hefyd ddiolch i’n noddwyr Fferm Wynt Forest West, Bwydydd Castell Howell a Chyngor Cymuned Llanpumsaint, yn ogystal â Neuadd Goffa Llanpumsaint a Ffynnonhenri.”

Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i Gôr Llanpumsaint a’r Cylch am eu cefnogaeth codi arian, gan arwain at gyfraniad hael iawn o £3,000.

“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion o fewn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Gallwn eich sicrhau y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Gôr Llanpumsaint a’r Cylch a phawb a fu’n ymwneud â threfnu a chefnogi’r digwyddiad gwych hwn. Mae codi £3,000 yn gyflawniad gwych a bydd yr arian hwn yn ein helpu i barhau i gefnogi cleifion sy’n derbyn gofal drwy’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”