Neidio i'r prif gynnwy

Clociau newydd yn helpu cleifion dementia ar draws bwrdd iechyd i gyfeirio at amser a lle

Yn y llun uchod: Llun 1: Staff o adran damweiniau ac achosion brys gyda chlociau dementia (Dominic Paul, Nerys Lewis, John Mackrell, Emma Green ac Aled Thomas)

Llun 2: Staff o'r Uned Eiddilwch Acíwt gyda chloc dementia

 

Mae rhoddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi bod o fudd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili a'r Uned Eiddilwch Acíwt yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae dros £1,500 o arian elusennol wedi'i wario ar glociau dementia ar gyfer yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys a'r Uned Eiddilwch Acíwt.

Mae clociau dementia yn darparu arddangosfa glir, hawdd ei ddarllen o'r dyddiad, diwrnod ac amser y dydd sy'n arbennig o fuddiol i gleifion sy'n profi dryswch, colli cof neu ddiffyg cyfeiriadedd. Maent yn helpu i leihau gorbryder, hyrwyddo annibyniaeth, a chefnogi cleifion i gynnal eu trefn ddyddiol.

Dywedodd Aled Thomas, Uwch Nyrs Gofal yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys: "Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu 17 o glociau dementia newydd i'w defnyddio ar draws yr adran.

"Gall y diffyg gallu i adnabod yr amser a'r dydd yn gywir arwain at fwy o ddryswch a deliriwm yn ein cleifion, yn fwy felly yn y rhai sydd ag anhwylderau gwybyddol sy'n bodoli eisoes fel dementia neu Alzheimer's."

Dywedodd Lisa Marshall Uwch Brif Nyrs ar yr Uned Eiddilwch Acíwt: "Mae'r clociau hyn yn eitem hynod ddefnyddiol i'w gael ar yr uned wrth iddynt wella cyfeiriadedd. Maent yn lleihau amlder cwestiynau ailadroddus fel "Pa amser ydyw?" gan alluogi cleifion i deimlo eu bod yn gwybod ble maen nhw, a staff i neilltuo mwy o amser i ofal hanfodol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cefnogi cleifion â dementia drwy ddarparu'r clociau newydd hyn.

"Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau ar ben yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: