Yn y llun uchod: Llun 1: Chwith i’r Dde: Dr Sian Jenkins, Ymgynghorydd Pediatreg Cyffredinol; Gareth Rutter; Rosa Rutter; Alice Davies; Katie Davies; Elizabeth Amery, SGIC; Jennifer Stirling, Nyrs Cyflyrau Hirdymor Pediatrig.
Llun 2: Gareth yn sefyll ar adain
Cododd Gareth Rutter swm arbennig o £1,194 ar gyfer yr Uned Gardioleg yn Ysbyty Glangwili ar ôl ymgymryd â her cerdded ar adain awyren.
Cwblhaodd Gareth Rutter, sy'n byw ym Mrynamman ac yn gweithio fel Technegydd Cynnal a Chadw i Gyngor Sir Gaerfyrddin, yr her cerdded ar adain awyren ar 8 Awst yn Maes Awyr RFC Rendcomb yn Swydd Gaerloyw.
Yn yr her, cafodd Gareth ei glymu wrth adain awyren wrth iddi godi i'r awyr, gan wireddu uchelgais oes a chefnogi achos sy'n agos at ei galon.
Dywedodd Gareth: “Dewisais godi arian ar gyfer yr Uned Gardioleg fel ffordd o ddiolch am y gofal maen nhw wedi'i roi i Alice – merch fy ffrindiau, Grant a Katie – ers iddi fod yn chwe mis oed.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd, ac i'r ffrindiau a'r teulu a ddaeth i wylio ar y diwrnod.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym mor ddiolchgar i Gareth am ymgymryd â her mor ddewr i gefnogi ein Cronfa Gardioleg.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”