Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Nod ein helusen yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.


Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wella gofal, profiad a chanlyniadau ar gyfer:

 

 

 

 

 

Sut rydyn ni'n helpu

Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn gan gleifion, eu teuluoedd a’n cymunedau lleol yn disodli cyllid y GIG. Cânt eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG megis:

  • Cysuron ychwanegol i gleifion
  • Y cyfarpar meddygol mwyaf diweddar
  • Amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff
  • Mentrau hyfforddi, datblygu a lles staff
  • Gwell gofal yn ein cymunedau lleol.

Gall ein cefnogwyr ddewis rhoi neu godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol neu ar gyfer gwasanaeth neu ysbyty penodol.

Darllenwch fwy am ein heffaith (agor mewn dolen newydd)

 

Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Os ydych yn aelod o staff ac os hoffech wneud cais am arian elusennol ar gyfer eich gwasanaeth, gweler ein tudalen bwrpasol ar fewnrwyd y staff.(agor mewn dolen newydd)

 

 

 

 

Dilynwch ni: