Prosiect cerddoriaeth yn cefnogi pobl ifanc ar eu taith adfer

Yn y llun: Un o'r gweithdai ar waith.

 

Bydd pobl ifanc, a gefnogir gan wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn elwa ar ddychweliad prosiect cerddoriaeth poblogaidd iawn, diolch i rodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Mae elusen y GIG wedi ariannu mis o weithdai cerddoriaeth a ddarperir gan Music Factory Wales, gan roi gofod diogel a chroesawgar i bobl ifanc rhwng 14 ac 25 oed archwilio cerddoriaeth, magu hyder a chysylltu ag eraill. Rhedodd y 'Music Space Project' am 18 mis yn flaenorol, a daeth yn rhan bwysig o deithiau adfer llawer o'r cyfranogwyr.

Daeth yr ariannu hwn yn bosibl diolch i Cerian McDowall, Nyrs Seiciatrig Gymunedol, a gododd £465 trwy gymryd rhan mewn digwyddiad cerdded tân dan draed a drefnwyd gan Elusennau Iechyd Hywel Dda. Mae pob ceiniog yn mynd yn uniongyrchol tuag at y gweithdai cerddoriaeth.

Mae gwasanaeth EIP yn cefnogi pobl ifanc sy'n profi seicosis, neu sydd mewn perygl o'i brofi, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn wynebu heriau, gan gynnwys unigedd cymdeithasol, stigma ac anfantais economaidd-gymdeithasol.

Trwy gyfuniad o weithdai grŵp a hyfforddiant un-i-un, gall cyfranogwyr ddysgu chwarae amrywiaeth o offerynnau, gan gynnwys y piano, y delyn, y gitâr a drymiau, yn ogystal â datblygu sgiliau mewn ysgrifennu caneuon a chynhyrchu cerddoriaeth.

Dywedodd Cerian: "Rydym mor falch ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r sesiynau cerddoriaeth hyn ar gyfer y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi.

"Mae'r effaith y mae'r sesiynau hyn yn ei chael wedi bod yn anhygoel. Mae cerddoriaeth yn cynnig ffordd greadigol o fynegi eich hun, a gall helpu i leihau pryder, gwella hyder a dod â phobl at ei gilydd. I rai cyfranogwyr, mae wedi eu helpu i ailddarganfod diddordebau a chryfderau roeddent yn meddwl eu bod wedi'u colli.

"Rydym yn angerddol dros barhau â'r prosiect hwn oherwydd rydym wedi gweld drostom ein hunain y gwahaniaeth y mae'n ei wneud. Mae'r sesiynau'n cynnig llawer mwy na gwersi cerddoriaeth yn unig; maent yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth a chreadigrwydd, gan annog cyfranogwyr i archwilio cerddoriaeth fel ffordd gydol oes o fynegi eu hunain a hybu lles.

"Hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i Aled o Music Factory Wales am ei gefnogaeth anhygoel i'r prosiect, ac am weithio'n ddi-flino i ymgysylltu â'n pobl ifanc a'u hysbrydoli. Mae ei ymroddiad, ei ymrwymiad a'i ffydd yn y prosiect wedi gwneud gwahaniaeth parhaol." Drwy gynllun rhoi offerynnau Music Factory Wales, mae cyfranogwyr wedi gallu cael gafael ar offerynnau eu hunain, sy'n eu galluogi i barhau i ymarfer a datblygu eu sgiliau yn annibynnol. Mae nifer o gyn-gyfranogwyr eisoes wedi parhau i wneud cerddoriaeth ar ôl gadael y rhaglen.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: "Rydym wrth ein bodd yn cefnogi parhad y gweithdai hyn.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”