Mae'r rhoddion hael a gawn yn ein galluogi i greu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, eu teuluoedd a'u staff.
Ar hyn o bryd rydym yn ariannu’r gwaith o drawsnewid y mannau awyr agored sy’n gwasanaethu ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu, a ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn.
Ar ôl eu cwblhau, bydd y gerddi newydd yn creu amgylcheddau awyr agored bywiog, hygyrch sy'n hybu lles, yn ysgogi'r synhwyrau, yn annog gweithgaredd ysgafn, ac yn cynnig mannau heddychlon ar gyfer ymlacio, myfyrio a rhyngweithio cymdeithasol.
Dywedodd Lauren Hughes, Rheolwr Ward yn ward Bryngolau: “Rydym wrth ein bodd yn gweld y gwaith yn dechrau. Bydd y gerddi hyn yn darparu gofod awyr agored heddychlon, therapiwtig i’n cleifion a’n staff lle gall pawb fwynhau natur, dod o hyd i gysur, a phrofi eiliadau o lawenydd a chysylltiad. Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl.”
Ychwanegodd Gareth Phillips, Uwch Brif Nyrs yn ward Mynydd Mawr: “Mae hwn yn gam cyffrous ymlaen i’r amgylchedd adsefydlu y gallwn ei gynnig i’n cleifion. Bydd y gerddi newydd yn cefnogi lles corfforol ac emosiynol a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd yn ystod eu hamser gyda ni.”