Mae ymgyrch Nadolig yn ceisio cefnogaeth gan gymunedau lleol i helpu i greu atgofion Nadoligaidd hudolus i blant a phobl ifanc ledled canol a gorllewin Cymru sy'n derbyn gofal gan y GIG y Nadolig hwn.
Mae ymgyrch Anfonwch Anrheg Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwahodd pobl i helpu i wneud tymor yr Ŵyl yn fwy disglair i blant a phobl ifanc sy'n cael eu cefnogi gan dîm gofal lliniarol pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Nod yr ymgyrch yw dod â chysur, llawenydd ac eiliadau arbennig i blant a theuluoedd a allai fod yn wynebu amgylchiadau anodd dros gyfnod y gwyliau.
Mae sawl ffordd o gefnogi'r ymgyrch. Gallwch:
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Dylai’r Nadolig fod yn gyfnod hudolus i bob plentyn, ond i rai teuluoedd sy’n derbyn gofal a thriniaeth, gall hefyd fod yn hynod heriol.”
“Rydym yn gofyn i’n cymunedau lleol ein helpu i ddod â llawenydd, cysur ac eiliadau o hapusrwydd i blant a phobl ifanc a allai fod yn treulio’r Nadolig yn yr ysbyty neu’n derbyn gofal arbenigol gartref.
“P’un a ydych yn rhoi anrheg, yn cymryd rhan yn Diwrnod Siwmper Nadolig neu’n gwneud cyfraniad ariannol, bydd eich cefnogaeth yn helpu i greu atgofion gwerthfawr i blant a theuluoedd ar adegau pan maent yn bwysicaf.”
Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/anfonwch-anrheg/