Mae'r rhoddion a gawn yn ein galluogi i ariannu cysuron cleifion ychwanegol i wneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus.
Mae hyn yn cynnwys eitemau fel hadau glas y gors yr ydym wedi'u hariannu'n ddiweddar ar gyfer teuluoedd sy'n galaru sy'n cael eu cefnogi gan y Timau Gofal Lliniarol Arbenigol ledled Sir Gaerfyrddin.
Hadau glas y gors yw'r hadau bach, sych o'r planhigyn glas y gors, a elwir hefyd yn Myosotis. Planhigyn blodeuol yw glas y gors sy'n cael ei blannu'n aml fel symbol o goffa, cariad a chysylltiadau parhaol.
Gall yr hadau gynnig cysur ac iachâd i deuluoedd sy'n galaru trwy ddarparu teyrnged fyw, barhaol i anwylyd sydd wedi marw.
Dywedodd Sharon Jones, Nyrs Glinigol Lliniarol Arbenigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r hadau.
“Mae'r hadau'n cael eu hanfon gan y Timau Gofal Lliniarol Arbenigol at deuluoedd cleifion sydd wedi marw o dan ein gofal naill ai yn yr ysbyty neu yn y gymuned.
“Fel tîm, rydym am ddangos caredigrwydd a thrugaredd i deuluoedd sydd wedi galaru, gydag ystum tebyg i ofal hosbis. Mae'r hadau hyn yn rhoi gwybod i'r teuluoedd ein bod yn meddwl amdanynt ac eisiau eu helpu i gofio eu hanwyliaid flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i'r hadau flodeuo.”