Neidio i'r prif gynnwy

Mae cadeiriau a ariennir gan elusen yn creu amgylchedd sy'n cynnig mwy o gefnogaeth i gleifion canser

Yn y llun: Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs, a Marie Williams, Prif Nyrs.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu cadeiriau newydd ar gyfer ystafelloedd clinig yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, gan helpu i wella cysur a chefnogaeth i gleifion a'u hanwyliaid yn ystod apwyntiadau.

Mae elusen y GIG wedi ariannu cyfanswm o 14 cadair i'w defnyddio mewn ystafelloedd clinig, gan alluogi cleifion i gael dau aelod o'r teulu neu ffrindiau gyda nhw yn ystod ymgynghoriadau.

Dywedodd Marie Williams, Uwch Brif Nyrs: "Rydym bob amser yn hynod ddiolchgar am y rhoddion a gawn yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip. Maent yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r gwasanaeth a ddarparwn i'n cleifion a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau anodd iawn."

Mae’r cadeiriau wedi creu amgylchedd sy’n fwy hwylus i’w ddefnyddio ac yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell a mwyaf effeithlon i’n cleifion.

Ymwelodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – â’r uned cemotherapi yn ddiweddar a siarad â’r staff am y gwahaniaeth y mae’r cadeiriau wedi’i wneud i’r uned.

Dywedodd: “Diolch i’r rhoddion hael rydym yn eu derbyn, rydym yn gallu ariannu eitemau fel y cadeiriau hyn, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd.”

Roedd yn wych clywed yn uniongyrchol gan y staff am yr effaith gadarnhaol y mae’r cadeiriau hyn eisoes yn ei chael, gan helpu i greu amgylchedd mwy croesawgar a chefnogol o fewn yr uned.

Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

Dilynwch ni: