Gallwch chi gyfrannu i ni…
Cofiwch roi gwybod i ni os yw eich rhodd wedi'i bwriadu ar gyfer gwasanaeth neu adran benodol. Er enghraifft, os ydych yn talu gyda siec, rhowch enw’r ysbyty, ward neu adran yr hoffech eu cefnogi ar y cefn.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am wneud cyfraniad, Cysylltwch â ni (agor mewn dolen newydd).
Rhoi hwb i'ch rhodd gyda Chymorth Rhodd
Mae CThEF yn gweithredu cynllun o’r enw Cymorth Rhodd sy’n caniatáu i elusennau hawlio treth cyfradd sylfaenol ar bob punt a roddir. Mae rhoi o dan Gymorth Rhodd yn golygu y gellir codi cymaint mwy o arian heb unrhyw gost ychwanegol i’n rhoddwyr: gallwch roi hwb o 25c i’ch rhoddion am bob £1 a roddir.
I fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd, rhaid i roddwyr fod yn drethdalwr yn y DU a gwneud datganiad cymorth rhodd. Mae codi arian ar-lein yn gwneud hyn yn hawdd i chi, felly y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw ticio blwch.
Os ydych yn postio eich rhodd, cofiwch hefyd gynnwys ffurflen datganiad Cymorth Rhodd (agor mewn dolen newydd) wedi'i llofnodi fel y gallwn hawlio rhyddhad treth yn ôl ar eich rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.