Rhoi rheolaidd

Ymunwch â Thîm Calon – a gwnewch wahaniaeth parhaol bob mis.

Mae rhodd reolaidd yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi cleifion, staff a gwasanaethau ledled Hywel Dda.

Trwy ddewis rhoi rhoddion misol, gallwch gynnig cefnogaeth barhaus i'r ysbyty, y ward, yr adran neu'r gwasanaeth sydd bwysicaf i chi. Fel arall, gallwch gefnogi ein cronfa gyffredinol Gwneud Gwahaniaeth, mae hyn yn golygu y bydd eich rhoddion yn cefnogi prosiectau ar draws y Bwrdd Iechyd.

Waeth beth yw maint eich rhodd, mae rhoi’n rheolaidd yn darparu cyllid y gallwn ddibynnu arno, sy’n ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ariannu prosiectau pwysig a gwella profiadau i gleifion, teuluoedd a staff.

Gallai eich rhodd reolaidd helpu i:

  • Gwella amgylcheddau ysbytai a chysur cleifion
  • Ariannu offer ac adnoddau y tu hwnt i’r hyn a ddarperir gan y GIG
  • Cefnogi prosiectau a gweithgareddau sy’n hybu lles cleifion
  • Gwella profiadau i deuluoedd a gofalwyr
  • Buddsoddi mewn mentrau lles i staff
  • Ein helpu i ymateb i anghenion sy’n codi ar draws ein cymunedau.

 

Rhoddion bach, effaith fawr

Does dim rhaid i roi yn rheolaidd fod yn ymrwymiad mawr er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

  • Gallai £5 y mis ddarparu pethau ychwanegol syml sy’n cynnig cysur a charedigrwydd pan fo cleifion eu hangen fwyaf.
  • Gallai £10 y mis helpu i gefnogi gweithgareddau a phrosiectau lles.
  • Gallai £20 y mis gyfrannu at offer arbenigol a mentrau arloesol.

Dros amser, mae'r rhoddion hyn yn cronni ac yn helpu i greu gwelliannau parhaol ar draws ein bwrdd iechyd.

Darllenwch fwy am effaith eich rhoddion.

 

Sut i sefydlu rhodd reolaidd

Mae sefydlu rhodd fisol yn gyflym ac yn ddiogel drwy ein platfform rhoi ar-lein, Enthuse.

Yn syml:

  1. Cliciwch ar y botwm 'Cyfrannwch' isod.
  2. Dewiswch y gronfa, yr ysbyty neu'r gwasanaeth yr hoffech ei gefnogi.
  3. Dewiswch Cyfraniad Misol pan ofynnir i chi wneud hynny.
  4. Rhowch y swm yr hoffech ei roi bob mis.
  5. Llenwch eich manylion cyswllt a thalu.
  6. Ychwanegwch Rhodd Cymorth os ydych yn gymwys; bydd hyn yn helpu eich cyfraniad i fynd ymhellach fyth, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
  7. Cadarnhewch eich cyfraniad.

Unwaith y bydd eich rhodd wedi'i sefydlu, bydd eich cyfraniad yn cael ei gasglu'n awtomatig bob mis, a gallwch ei addasu neu ei ganslo unrhyw bryd – cliciwch yma am fwy o wybodaeth (yn agor mewn dolen newydd).

Byddwch hefyd yn derbyn pecyn croeso sy'n cadarnhau eich bod wedi cofrestru, ac yn darparu rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich rhodd hael yn gwneud gwahaniaeth i gleifion, cymunedau a staff.

 

Diolch

Mae pob rhodd reolaidd yn ein helpu i wneud mwy ar gyfer y cleifion, y staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth parhaol, bob mis.