Yn y llun uchod: Llun 1: Lisa, Diana, Geoff (gŵr Sonia), Huw a Lottie gyda staff o Ward 9.
Llun 2: Chwith i'r dde – Huw, Lisa a Diana.
Mae tri beiciwr o Borth Tywyn wedi codi swm anhygoel o £4,360.75 ar gyfer Ward 9 yn Ysbyty Tywysog Philip ar ôl cwblhau her feicio o Baris i Borth Tywyn er cof am eu ffrind annwyl, Sonia Thomas.
Ym mis Gorffennaf, aeth Lisa Mitchell, Diana Davies a Huw Davies ar daith feicio o Gadeirlan Notre Dame ym Mharis yn ôl i Sir Gaerfyrddin. Eu nod oedd diolch i staff Ward 9 – yr Uned Strôc Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip – am y gofal a’r tosturi a ddangoswyd tuag at Sonia yn ystod ei dyddiau olaf.
Ar hyd y ffordd, teithiasant trwy Ffrainc, Lloegr a Chymru cyn gorffen ym Mhorth Tywyn, lle cawsant eu croesawu gan deulu, ffrindiau a staff o Ward 9.
Roedd Sonia yn feiciwr brwdfrydig; yn 81 oed, ymunodd â Diana (72 oed) a Lisa (merch Diana) ar y daith feicio flynyddol a noddwyd gan Eglwys St Mary o Abertawe i Borth Tywyn y llynedd yn unig.
Dywedodd Lisa: “Mae fy mam, Diana, fel Sonia, wedi bod yn feiciwr gweithgar ers blynyddoedd lawer ac wedi cwblhau’r Carten100 bum gwaith, yn ogystal ag ymgymryd â heriau cerdded anhygoel gan gynnwys llwybr y Camino, Mur Mawr Tsieina, Machu Picchu a Mynydd Kilimanjaro. Mae hi’n ysbrydoliaeth enfawr i bawb o’i chwmpas ac fe’m hysbrydolodd i ymuno â hi ar y Carten pan drodd yn 70 oed.
“Ers hynny, rydw i wedi datblygu cariad at feicio, gan gwblhau’r digwyddiad ddwywaith yn rhagor. Y llynedd fe wnaethom feicio o Lundain i Borth Tywyn, gan godi mwy na £2,000 i Tenovus, ac eleni ymunodd fy mhartner Huw â ni, gan ddod â’i brofiad triathlon ac Ironman i helpu i gynllunio a chefnogi’r daith.”
Wrth sôn am yr her, dywedodd Diana: "Roedd yr her yn bendant yn un heriol! Fe wnaethom fwynhau pob eiliad er gwaethaf y gwres a hyd yn oed y glaw un diwrnod. Roedd yn brofiad boddhaus iawn ac roedd yn hyfryd gwybod bod pawb gartref yn dilyn ein cynnydd trwy gyfryngau cymdeithasol.
"Diolch i bawb a’n cefnogodd mor hael ac i’r rhai a gymerodd ffurflenni noddi a helpu i godi swm mor anhygoel o arian.
"Rydym mor ddiolchgar am y gofal a gafodd fy ffrind Sonia yn yr Uned Strôc Acíwt, Ward 9, Ysbyty Tywysog Philip." Yn anffodus, bu farw yno ar ôl cyfnod byr iawn o aros."
Dywedodd Sonia Jones, Nyrs Arweiniol ar Ward 9: “Ar ran Ward 9, hoffem ddiolch yn ddiffuant i Diana, Lisa a Huw am eu rhodd wych.
“Rydym yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd yn fawr, a gallwn eu sicrhau y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio'n dda i gefnogi a bod o fudd i gleifion sy'n derbyn gofal ar ein ward. Hoffem hefyd eu llongyfarch unwaith eto ar eu her anhygoel o feicio o Baris i Borth Tywyn; am gamp wych.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Am her anhygoel. Ni allwn fynegi pa mor ddiolchgar ydym am eich ymdrechion codi arian a'ch cefnogaeth.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”