Yn y llun uchod: Laura yn awyr blymio.
Aeth Laura, sy'n gweithio i Dîm Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Faes Awyr Abertawe ar 18 Ebrill a chymerodd ran mewn neidio o awyren tandem.
Dywedodd Laura: “Rwy'n byw yng Ngheredigion ac mae gen i ddwy ferch sy'n 10 a 12 oed. Maen nhw'n meddwl mai 'dad yw'r un anturus' ac roeddwn i eisiau dangos iddyn nhw fod mam yn anturus hefyd, wrth godi arian ar gyfer achos pwysig iawn.
“Archebais naid 10,000 troedfedd yn wreiddiol ond cynyddais hynny i 15,000 troedfedd ychydig ddyddiau ymlaen llaw. Ar y ffordd i fyny, roedd llawer o gyffro a wynebau'n gwenu.
“Rwy'n adnabod cymaint o deuluoedd a ffrindiau o'm cwmpas sydd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer ac rwyf wedi gweld yr effaith y mae hyn wedi'i chael arnyn nhw. Ymwelais â ward Enlli trwy waith, a gallwn weld effaith y gweithgareddau a oedd yn digwydd yno. Roeddwn i eisiau codi rhywfaint o arian i fynd tuag at brynu eitemau a fyddai'n helpu i wella arhosiad pobl ar y ward.
“Hoffwn ddiolch i dîm Elusennau Iechyd Hywel Dda am ein galluogi i gymryd rhan mewn heriau mor epig ar gyfer achosion da. Helpodd cefnogaeth y tîm yn fawr iawn gyda fy nghodi arian. Rhannwyd y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol a chefnogodd pobl rwy'n eu hadnabod fy ymdrechion codi arian a gwnaeth hynny wahaniaeth mawr.
“Hoffwn ddiolch i unrhyw un a roddodd neu a rannodd fy linc, fy mhlant am fy ysbrydoli i wthio fy hun y tu hwnt i'm parth cysur a fy nau gydweithiwr o’r tîm cyfathrebu a ddaeth i'm cefnogi ar y diwrnod gyda llawer o chwerthin a phositifrwydd.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Laura am fentro neidio o awyren i gefnogi Ward Enlli.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau bach ychwanegol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Os hoffech gyfrannu at ymgyrch codi arian Laura, ewch i: https://hyweldda.enthuse.com/pf/skydiving-for-enlli-ward