Neidio i'r prif gynnwy

Merch yn rhedeg hanner marathon i godi arian ar gyfer Uned Gofal Dwys Glangwili

Yn y llun uchod: Llun 1: Natasha, Nyrs Staff; Kate Preston, mam Molly; Gill Pountney; Charlotte Grice, Uwch-nyrs a Nicola Thomas, Prif Nyrs.

Llun 2: Molly Siswick

 

Cymerodd Molly Siswick, sy'n 22 oed ac yn dod o Saundersfoot, ran yn Hanner Marathon Abertawe yn ddiweddar a chododd £1,534 ar gyfer yr Uned Gofal Critigol (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Rhedodd Molly, sy'n ddawnswraig broffesiynol i Park Dean Resorts, er budd yr uned fel arwydd o ddiolch am y gofal a gafodd ei mam, Kate Preston, yno.

Dywedodd Molly: “Cynhaliwyd y digwyddiad yn Abertawe ddydd Sul, 7 Mehefin 2026. Dyma oedd fy her redeg gyntaf erioed; cwblheais yr hanner marathon mewn 2 awr ac 8 munud.”

Dyma oedd fy ffordd i o ddiolch i holl staff Uned Gofal Dwys Glangwili am ofalu am fy mam ar ôl iddi bron â cholli ei bywyd oherwydd sepsis a methiant organau.

Roedd yn heriol, ond cefais lawer o gefnogaeth gan deulu a ffrindiau.

Hoffwn ddiolch i bawb yn Uned Gofal Dwys Glangwili: y meddygon, y nyrsys a’r holl staff eraill a fu’n rhan o wneud cyfnod Mam yn yr ysbyty yn un cyfforddus.

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Da iawn ti, Molly; am gamp wych. Dylet ti fod yn falch iawn o dy hun. Diolch am ddefnyddio dy amser i godi arian ar gyfer achos mor werth chweil.”

“Nid yw’r rhoddion hael i elusennau a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau sy’n mynd y tu hwnt i wariant craidd y GIG, megis amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, a’r offer diweddaraf.”

Dilynwch ni: