Neidio i'r prif gynnwy

Gemau a gweithgareddau newydd yn hybu lles ar Ward Sunderland

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu gemau a gweithgareddau i wella profiad a lles cleifion a staff ar Ward Sunderland yn Ysbyty De Sir Benfro.

Mae Ward Sunderland yn ward adsefydlu cleifion mewnol sy'n gofalu'n bennaf am gleifion sy'n oedolion nad oes angen gofal ysbyty acíwt arnynt mwyach ond nad ydynt eto'n barod i ddychwelyd adref.

Mae rhai eitemau sydd wedi'u hariannu gan elusen y GIG yn cynnwys dominos pren, jig-sos, paent acrylig a brwsys paent a llyfrau print.

Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi cleifion trwy annog annibyniaeth, cynnig tynnu sylw, a darparu cyfleoedd ar gyfer mynegiant creadigol. Byddant hefyd yn helpu i greu amgylchedd tawelach a mwy deniadol i gleifion sy'n treulio amser ar y ward.

Dywedodd Nicola Zroud, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym mor falch bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r eitemau hyn ar gyfer Ward Sunderland.

“Bydd y gweithgareddau newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion. Mae llawer o'r unigolion yr ydym yn gofalu amdanynt yn elwa'n fawr o eiliadau o dawelwch, creadigrwydd ac annibyniaeth. Mae cael yr adnoddau hyn ar gael yn ein helpu i ddarparu profiad mwy cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar y person.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r gemau a'r gweithgareddau hyn yn enghraifft wych o sut mae cefnogaeth elusennol yn gwella lles cleifion.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: