Yn y llun uchod: Staff o'r uned gyda Sam Faulkner.
Llwyddodd y codwyr arian Sam a Gavin Faulkner i ragori'n aruthrol ar eu her redeg, gan godi £1,465 ar gyfer yr Uned Gofal Cardiaidd yn Ysbyty Llwynhelyg.
Penderfynodd y cwpl, sydd wedi codi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, ymgymryd â her arall er cof am dad Sam.
Penderfynodd Sam a Gavin nad oedd un ras yn ddigon, felly fe wnaethon nhw ymuno â Ras 10k Porthcawl, Hanner Marathon y Great North Run, Hanner Marathon Caerdydd a Ras 10k Cylchffordd Silverstone – ras a gynhaliwyd ar ben-blwydd tad Sam, yn y pentref lle cafodd Sam ei fagu.
Dywedodd Sam: "Collais fy nhad ym mis Gorffennaf 2023 yn dilyn nifer o drawiadau ar y galon, ac rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i wneud rhywbeth bob blwyddyn i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Cardiaidd yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd er cof amdano. Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth; mae'n golygu'r byd i mi ac i fy nheulu."
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Hoffem longyfarch Sam a Gavin ar gwblhau’r her anhygoel hon. Diolch yn fawr iawn am roi o’ch amser i godi arian unwaith eto ar gyfer yr Uned Gofal Cardiaidd; rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.”
Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.