Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrau a ariannwyd gan elusen yn helpu plant i ddeall gweithdrefnau meddygol

Yn y llun uchod: Staff yn dal y llyfrau gwybodaeth.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu llyfrau stori meddygol sy'n addas i blant i helpu plant i deimlo'n llai pryderus ynghylch apwyntiadau a thriniaethau.

Mae'r llyfrau'n esbonio gweithdrefnau meddygol mewn ffordd syml, weledol, gan helpu plant i ddeall beth fydd yn digwydd - sy'n gwneud i weithdrefnau fel profion gwaed neu fonitro deimlo'n llai brawychus ac yn fwy rhagweladwy.

Dywedodd Roxanne Andrews, Ymarferydd Cynorthwyol Pediatrig: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ein galluogi i brynu'r llyfrau darllen addysgiadol ar gyfer ein gwasanaeth.

“Mae gennym ddau lyfr ym mhob sir bellach, gan roi offer ychwanegol i'n timau i helpu plant a phobl ifanc i deimlo'n fwy cyfforddus ac yn fwy parod cyn gweithdrefnau a thriniaethau.

“Mae'r llyfrau'n defnyddio lluniau clir ac iaith syml i esbonio gweithdrefnau meddygol mewn ffordd sy'n gyfeillgar i blant, gan helpu i leihau pryder a gwella dealltwriaeth i blant a'u teuluoedd.

“Mae'r cyllid hefyd wedi ein galluogi i brynu offer nyrsio chwarae ac adnoddau adborth, gan helpu plant i rannu eu profiadau a'i gwneud hi'n haws i ni barhau i wella'r gwasanaeth a ddarparwn.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o helpu gydag addysg plant ar weithdrefnau meddygol trwy ddarparu'r cyllid i brynu'r llyfrau hyn.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: