Yn y llun: Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Delyth Charles-Davies yn un o'r cadeiriau newydd
Diolch i haelioni cymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi ariannu pedair cadair gwerth £10,572 ar gyfer ward Tywi yn Ysbyty Glangwili.
Mae ward Tywi yn ward feddygol gyffredinol sy'n darparu gofal yn bennaf i gleifion â chyflyrau meddygol acíwt fel afiechydon anadlol, cyflyrau cardiaidd, heintiau, a phroblemau eraill nad ydynt yn llawfeddygol.
Mae'r cadeiriau gogwydd-mewn-gofod yn ddyfeisiau arbenigol sy'n cynnig manteision sylweddol i gleifion â phroblemau symudedd, gan gynnwys gwell ystum, rhyddhad pwysau, a chysur gwell yn ystod eistedd hir.
Dywedodd Angharad Davies, Rheolwr Ward ar ward Tywi: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion caredig wedi ein galluogi i brynu'r cadeiriau.
“Bydd gan y cadeiriau effaith gadarnhaol ar brofiadau cleifion trwy eu galluogi i eistedd allan o'r gwely yn gynt, a fydd yn helpu i leihau dadgyflyru ac yn cynorthwyo adsefydlu.
“Mae cael cadeiriau priodol i gleifion yn caniatáu iddynt symud ymlaen â'u hadferiad, sydd â effaith gadarnhaol nid yn unig ar gleifion a'u teuluoedd, ond hefyd ar y gwasanaeth.”
Ychwanegodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n rhoi i Elusennau Iechyd Hywel Dda. Mae eich haelioni yn caniatáu inni ariannu eitemau fel y rhain sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer, ac sydd o fudd mawr i gleifion.”