Neidio i'r prif gynnwy

Claf canser yn codi dros £3,800 i elusen y GIG

Yn y llun uchod: Staff yr uned gydag Emma ac aelodau'r teulu.

 

Roedd Emma Masser eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r uned sydd wedi gofalu amdani mor dda, felly cododd swm anhygoel o £3,846 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Emma, ​​sy'n byw yn Llanelli, wedi bod yn derbyn triniaeth cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip ers dros 12 mis.

Fel diolch am y driniaeth anhygoel y mae'n ei derbyn, trefnodd Emma noson o adloniant yn gyntaf, a gynhaliwyd gan yr adlonydd lleol Kenny Morris, ac yna seiclothon 24 awr ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Dywedodd Emma: “Cynhaliwyd y noson o adloniant yng Nghlwb Cymdeithasol Morfa ar 5 Ebrill ac roedd yn cynnwys bingo, raffl ac artistiaid lleol. Cynhaliwyd y seiclothon o hanner dydd ar 16 Mai i hanner dydd ar 17 Mai. Cawsom bobl yn beicio drwy gydol y 24 awr.

“Roedden ni'n poeni am werthiant tocynnau ar gyfer y digwyddiad cyntaf. Fodd bynnag, gwerthwyd pob tocyn ac ni allem fod wedi gofyn am well. Roedd yr ail ddigwyddiad yn heriol, yn bennaf oherwydd y tywydd, ond unwaith eto, roedd y gefnogaeth leol yn anhygoel.

“Roedden ni’n falch iawn ac wedi synnu gyda’r swm a godwyd. Doedd gennym ni ddim targed mewn golwg, gan fod unrhyw swm yn well na dim.

“Hoffem ddiolch i Glwb Cymdeithasol Morfa, Kenny Morris, Cyngor Sir Caerfyrddin ym Mharc Gwledig Pen-bre, CKs Foodstore, El Pascos a’r holl deulu a ffrindiau a helpodd a chefnogodd y ddau ddigwyddiad.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Waw, mae trefnu dau ddigwyddiad codi arian wrth fynd trwy driniaeth yn gamp anhygoel ac ni allwn fynegi ein diolchgarwch i Emma ddigon.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau, a’u datblygu.”

Dilynwch ni: