Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu mainc ar gyfer Ysbyty De Sir Benfro

Yn y llun uchod: Katie Hancock, Swyddog Codi Arian, gyda'r fainc newydd.

 

Mae Hywel Dda Health Charities, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu mainc i'w defnyddio yn Ysbyty De Sir Benfro.

Mae'r fainc wedi'i gosod yng ngardd gymunedol yr ysbyty er budd cleifion, staff ac ymwelwyr. Dywedodd Siân Nichols, Swyddog Gwasanaethau Busnes Sir Benfro: “Mae cleifion yn elwa ar gael lle cyfforddus i eistedd ac ymlacio wrth fwynhau'r awyr iach a byd natur.”

Gall cleifion adael y ward gyda’u hymwelwyr a threulio amser yn rhyngweithio mewn gofod agored. Yn yr un modd, gall staff eistedd gyda’i gilydd yn yr awyr agored neu gymryd eiliad iddynt eu hunain i fyfyrio neu ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, pethau a fydd yn cyfrannu at forâl a lles y staff.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn enghraifft wych o sut mae eich elusen GIG leol yn ariannu prosiectau ac eitemau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel amgylcheddau croesawgar i gleifion, ymwelwyr a staff.”

Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

Dilynwch ni: