Yn y llun uchod: Llun 1af: Staff o Ward 7 ac Uned Chmo gyda Cerith a'i deulu a'i ffrindiau. Ail lun: Teulu a ffrindiau Cerith.
Llwyddodd ffrindiau, teulu a chydweithwyr Cerith Coates i herio Her Tri Chopa Cymru, gan godi £10,870 ar gyfer Ward 7 ac Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Ymgymerodd ffrindiau, teulu a chydweithwyr Cerith â'r her ar 16 Awst 2025 fel diolch am y gofal gwych y mae wedi'i dderbyn gan staff ar Ward 7 ac yn yr Uned Ddydd Cemotherapi.
Dywedodd Cerith: “Cefais ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Tachwedd 2024. Cefais lawdriniaeth o fewn wythnos i'r diagnosis a chefais ofal gan dîm anhygoel o feddygon, llawfeddygon a nyrsys ar Ward 7 yn Ysbyty Tywysog Phillip.
“Ym mis Ionawr 2025, dywedwyd wrthyf gan fy oncolegydd fod y canser wedi lledu ac nad oedd modd ei wella ond ei fod yn drinadwy ac yn hawdd ei reoli. Rwyf wedi bod yn derbyn cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip ers hynny sy'n gweithio'n dda. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi'i wneud i mi.
“Cwblhaodd fy ffrindiau, teulu a chydweithwyr y tri chopa o fewn 24 awr, ac ymunais â nhw ar gyfer y ddringfa olaf i fyny Pen y Fan. Roedd yn brofiad anhygoel, yn llawn emosiynau gwahanol gan gynnwys hapusrwydd, cyffro a blinder.
“Mae cymaint o bobl yr hoffwn eu diolch iddynt gan gynnwys fy nhad, Alun, Manchun, Felicity, busnesau lleol, Clwb Rygbi Tycroes ac yn arbennig fy ffrind Andrew am drefnu’r her.”
Dywedodd Rhian Glasson, Prif Nyrs Iau, “Roedd yn hyfryd gweld Cerith eto a’i holl deulu.
“Mae’r staff ar Ward 7 yn Ysbyty Tywysog Philip yn hynod ddiolchgar i Cerith a’i deulu a’i ffrindiau am y caredigrwydd a’r haelioni a ddangoswyd gan y rhodd wych hon i’n ward drwy gronfeydd elusennol.
“Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion, eu teuluoedd, a’n staff, gan ein helpu i ddarparu cysur, gofal a chefnogaeth pan fo’r angen fwyaf. Diolch i chi am wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol.”
Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs ar yr Uned Ddydd Cemotherapi: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i Cerith, ei deulu a’i ffrindiau am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Cerith, ei ffrindiau a’i deulu am benderfynu codi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi a Ward 7 yn Ysbyty Tywysog Philip. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.