Yn y llun uchod: Emyr Phillips.
Cododd Emyr Phillips, o Gilgerran, £500 yn ystod dathliadau pen-blwydd ei wraig Bethan yn 70 oed ar gyfer y gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn Ysbyty Glangwili.
Penderfynodd Emyr, prifathro wedi ymddeol, godi arian ar gyfer y gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd fel diolch am y gofal a gafodd ganddynt.
Dywedodd Emyr: “Gwnaeth y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn Ysbyty Glangwili eu gorau i wella fy ngwddf ar ôl dioddef o ‘Syndrom Tapis’ yn dilyn triniaeth lawfeddygol ar fy nghalon.”
Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Emyr am gymryd yr amser i godi arian ar gyfer y Tîm Therapi Iaith a Lleferydd. Gwerthfawrogir eich rhodd yn fawr.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac offer o’r radd flaenaf.”