Yn y llun uchod: Wendy Hogarth gyda staff yr uned.
Fe wnaeth Wendy Hogarth, sy'n byw yng Nghwmerfyn, ar daith sgwter noddedig a chodi £750 ar gyfer yr Uned Anadlol yn Ysbyty Bronglais.
Fe wnaeth Wendy fynd o Gwmerfyn i Aberystwyth ym mis Medi 2025 fel diolch am y gofal a gafodd yn ystod ei chyfnod chwe wythnos yn yr uned.
Dywedodd Wendy: “Roedd yn her go iawn, gan mai dyma’r tro cyntaf i mi deithio mor bell. Fe wnaeth ffrind o’r pentref feicio ochr yn ochr â mi i’m cefnogi, gyda’i gŵr yn beicio o’m blaen a fy ngŵr y tu ôl pan oedd yn rhaid i ni ddefnyddio’r ffyrdd. Roeddwn i’n falch o gyrraedd y prom ar draeth y gogledd.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm yn yr uned a phawb a gefnogodd a rhoddodd.”
Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Am godwr arian gwych! Diolch yn fawr iawn i Wendy am ymgymryd â’r her hon ar gyfer yr Uned Anadlol.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, a’r offer diweddaraf.”