Gwerthodd Huw Evans Auctioneers amrywiaeth o eitemau wrth arwerthiant a chynnal raffl, gan godi £12,600 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.
Mae Huw Evans Auctioneers yn fusnes lleol sy'n gwerthu da byw drwy arwerthiant ac sydd wedi'i leoli ym marchnad Llandeilo. Cynhaliwyd yr arwerthiant a'r raffl ym mis Mawrth yn y farchnad.
Dywedodd Huw Evans: “Roedd hi’n hynod werth chweil gweld y farchnad yn llawn, gan ddod â’r gymuned ynghyd i godi arian.”
Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian, a arweiniodd at rodd hael iawn o £12,600.”
Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella'r amgylchedd a'r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Gallwch fod yn sicr y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio ar gyfer y gwelliant hwn. Diolch!
Dywedodd Clair Rumble, Swyddog Codi Arian: “Am swm anhygoel! Diolch yn fawr iawn i Huw Evans Auctioneers a phawb a gefnogodd y digwyddiad codi arian am eich haelioni.”
Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.