Yn y llun uchod: Staff gyda Maisie, Codi, Jodie a Jayne.
Roedd Jodie Mann a'i ffrindiau'n arfer gweithio i gwmni arlwyo. Fe wnaethon nhw i gyd gadw mewn cysylltiad a phenderfynu gwneud rhywbeth dros elusen er cof am fam Jodie.
Ar 16 Mai 2026, cychwynnodd y grŵp a cherdded Pen y Fan yn ystod codiad haul.
Dywedodd Jodie: “Roedd fy mam yn mynd trwy ei hail rownd o driniaeth ond daliodd niwmonia hanner ffordd drwodd felly bu'n rhaid iddi stopio. Yn anffodus, bu farw cyn gorffen.
“Rwyf mor ddiolchgar i'r staff gwych am y gofal a'r gefnogaeth a roddasant i fy mam, a byddaf yn ddiolchgar iddynt am byth am yr amser ychwanegol a gefais i'w dreulio gyda hi.”
Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs, “Ar ran y staff a'r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £1,877.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella'r amgylchedd a gwella'r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch!”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Am deyrnged hyfryd i fam Jodie. Diolch i chi gyd am gymryd yr amser i godi arian er budd yr Uned Dydd Cemotherapi.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac offer cyfoes.”