Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthiant mêl yn codi dros £1,700 ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod: Conrad Ford, gwenynwr; Wendy Richards, Rheolwr Cyfleusterau Cynorthwyol; John Hayes, Rheolwr Cyfleusterau Vinci a Helen Gorman, Rheoli Cyfleusterau Llywodraeth Cymru.

 

Mae Vinci Facilities, tîm sydd wedi’i leoli yn adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, wedi codi £1,707 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais drwy fenter cadw gwenyn a gwerthu mêl parhaus.

Ar hyn o bryd mae gan Vinci Facilities gychod gwenyn fel rhan o brosiect bioamrywiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae pedwar cwch gwenyn yn cael eu cynnal a’u cadw ar y safle, gyda’r gwenynwr Conrad Ford yn goruchwylio eu gofal a’u cynnal drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r mêl a gynhyrchir gan y cychod gwenyn yn cael ei gynaeafu, ei jario, a’i werthu i gydweithwyr ar y safle, yn ogystal â mewn ffeiriau lleol a sioeau cymunedol ledled yr ardal.

Dywedodd John Hayes, Rheolwr Cyfleusterau Vinci: “Rydym i gyd yn gwybod rhywun sydd wedi cael canser. Mae sawl aelod o staff wedi bod dan ofal Uned Cemo Bronglais am driniaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r uned gyda’r codi arian hwn.

“Eleni, fe wnaethom godi dros £1,700 sy’n rhyfeddol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi codi dros £5,000.”

Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Vinci Facilities am godi swm mor wych unwaith eto ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau ychwanegol bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Dilynwch ni: