Yn y llun uchod: Stuart a Simon, gyda staff o Ward 10.
Croesawodd y digwyddiad blynyddol, a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2025 yn Neuadd Regency yn Saundersfoot, gefnogwyr am noson o adloniant yn cynnwys straeon cyfareddol ac uchafbwyntiau gyrfa gan gyn-gôl-geidwad proffesiynol Lerpwl, Bruce Grobbelaar.
Dywedodd Simon Brace a Stuart Mclaren o'r clwb pêl-droed: “Mae Clwb Pêl-droed New Hedges Saundersfoot yn glwb pêl-droed amatur lleol i blant ac oedolion yng nghymuned Saundersfoot.
“Trefnwyd digwyddiad eleni er cof am Gareth Allen, cyn-chwaraewr annwyl iawn i'r clwb a fu farw'n anffodus yn 2023. Roedden ni eisiau anrhydeddu Gareth a dangos ein gwerthfawrogiad am y gofal a gafodd drwy roi'r elw i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Simon, Stuart a phawb yng Nghlwb Pêl-droed New Hedges Saundersfoot am ddewis Ward 10 fel un o fuddiolwyr eich noson elusennol. Mae eich haelioni yn deyrnged hyfryd i Gareth, ac mae'r rhodd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y tîm ar Ward 10. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth anhygoel.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”