Neidio i'r prif gynnwy

Te prynhawn yn codi dros £2,000 i elusen

Yn y llun uchod: Aelodau o Dwsin gyda staff o'r Uned Gofal Arbennig Babanod.

 

Mae Dwsin, grŵp o 12 o ferched o ardal Llanelli sy’n trefnu digwyddiadau i godi arian at elusennau lleol, wedi codi £2,420 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Cynhaliodd y grŵp de prynhawn ar 3 Mehefin 2023 yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech yn Llanelli i godi arian.

Dywedodd Fiona Lloyd-Jones, aelod o Dwsin: “Fe wnaethon ni drefnu te prynhawn gyda prosecco yn ystod digwyddiad rasio ceffylau ar y teledu.

“Roedd yn ddiwrnod ardderchog a chawsom gymaint o hwyl. Mwynheuon ni i gyd yn fawr a chodwyd swm da o arian.

“Roedd gan un o’n haelodau ffrind yr oedd ei wyres wedi treulio peth amser yn yr SCBU yng Nghaerfyrddin a gofynnodd i ni drefnu un o’n digwyddiadau i roi i’r uned hon.

“Diolch i holl ferched y Dwsin a’n cefnogwyr.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: