Neidio i'r prif gynnwy

Merch ysgol yn codi dros £500 ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Dr Praba Gupta, Grug Fussell, Begw Fussell, Louise Smith, Claire Walters a Jayne Roberts.

 

Mae Begw Fussell, myfyriwr Blwyddyn 13 o Efailwen, wedi codi swm gwych o £580 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili.

Trefnodd Begw gyngerdd yn ei chapel pentref lleol ar 17 Rhagfyr 2023 i godi arian.

Dywedodd Begw: “Roedd yn ddigwyddiad i ddod â’r gymuned ynghyd. Rwy’n byw mewn cymuned gyda llawer o bobl oedrannus ac roedd cynnal y digwyddiad hwn yn golygu y gallent i gyd gael y cyfle i fwynhau cwmni ei gilydd. Fi fy hun, Jess Robinson, Esyllt Thomas, Ffion Thomas a Sioned Llewellyn i gyd wedi perfformio.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi codi arian ar gyfer Macmillan, Paul Sartori, ac ar gyfer diffibriliwr lleol sydd bellach yn cael ei ddefnyddio.

“Rwyf wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl rwy’n eu hadnabod sy’n brwydro yn erbyn canser. Rwy'n teimlo bod yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili yn cefnogi cymaint o deuluoedd ac unigolion ar eu taith at adferiad. Collodd dau o fy ffrindiau eu mamau i ganser yn y blynyddoedd diwethaf ac rwy'n teimlo y dylai pob uned cemo dderbyn y gefnogaeth orau gan eu cymuned, ni fyddwn byth yn gwybod pryd y bydd eu hangen arnom.

“Roedd yn noson werth chweil iawn. Gadawodd y gymuned sylwadau hyfryd. Mae pawb nawr yn gofyn pryd mae'r un nesaf!

“Diolch i’n hathro cerdd, Eilyr Thomas, ac i’r gymuned gyfan sydd bob amser yn barod i’m cefnogi gyda fy holl ddigwyddiadau codi arian.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Begw am drefnu’r cyngerdd a chodi’r swm gwych o £580.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: