Neidio i'r prif gynnwy

Te Mawr y GIG

Ymunwch â Te Mawr y GIG i ddathlu pen-blwydd y GIG!

Mae’n ben-blwydd y GIG yn 76 ar 5 Gorffennaf 2024. I ddangos eich cariad at y GIG, beth am ymuno â Te Mawr y GIG a chynnal eich te parti eich hun i godi arian ar gyfer eich elusen GIG?

Yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rydym yn codi arian i ddarparu’r pethau ychwanegol arbennig hynny sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Gallai’r rhain gynnwys cysuron ychwanegol i gleifion, offer meddygol cyfoes, mentrau datblygu a llesiant staff, neu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion a staff.

 

Byddwch yn greadigol!

Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi gael te parti. Gallwch fod yn greadigol a chodi arian yn y ffordd yr ydych yn ei fwynhau fwyaf. Bydd beth bynnag a godwch yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Er enghraifft, fe allech chi...

  • Cerddwch, rhedwch neu beiciwch 76 milltir yn 2024 a gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu eich noddi
  • Cynnal raffl
  • Cynnal parti ‘haf ‘76’
  • Gwnewch nofio noddedig 76 hyd
  • Cynhaliwch ddiwrnod ‘gwisgo lan fel nyrs neu feddyg’ yn yr ysgol neu ddiwrnod dillad eich hun a gofynnwch am roddion o £1

...ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen! Am lawer mwy o syniadau gweler ein Pecyn Cymorth Codi Arian (yn agor mewn dolen newydd).

 

Camau nesaf

I greu eich codwr arian ar-lein neu i wneud rhodd, ewch i'n tudalen Enthuse (yn agor mewn tab newydd).

Mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth:

Rhif ffôn:: 01267 239815

E-bost: Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk 

 

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

 

Dilynwch ni: