Neidio i'r prif gynnwy

Codwr arian i ymgymryd â sialens epig 87,000 o gamau i godi arian ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun uchod: Sam gyda'i dad.

 

Mae Sam Faulkner yn herio ei hun i gerdded 87,000 o gamau mewn un diwrnod i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal y Galon yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am ei dad.

Bydd Sam yn cerdded ar hyd Camlas Aberhonddu a Mynwy o Aberhonddu i Dŷ-du yng Nghasnewydd.

Dywedodd Sam: “Ers colli fy Nhad y llynedd, fe wnes i ymrwymiad personol i wneud rhywbeth i godi arian bob blwyddyn i’r Uned Gofal y Galon yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd a oedd yn gofalu mor dda am fy Nhad yn ei ddyddiau olaf.

“Byddaf yn herio fy hun i gwblhau 87,000 o gamau mewn diwrnod ar 20 Gorffennaf 2024 – 1,000 o gamau ar gyfer pob blwyddyn o fywyd fy nhad. Byddaf yn cerdded tua 40 milltir mewn tua 10 awr.

“Roedd teithiau camlas bob amser yn ffefryn mawr gen i a fy Nhad, gyda llawer o ddyddiau wedi’u treulio yn cerdded ar hyd y Grand Union yn Swydd Northampton pan oeddwn i’n tyfu i fyny.

“Byddai fy nheulu a minnau, a’r uned yn yr ysbyty, yn hynod ddiolchgar am unrhyw beth y gallai cefnogwyr ei roi. Diolch yn fawr iawn ymlaen llaw.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro: “Hoffem ddweud pob lwc i Sam gyda’i her. Diolch yn fawr iawn am neilltuo eich amser i godi mwy o arian ar gyfer yr Uned Gofal y  Galon.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gyfrannu at godwr arian Sam yma: https://www.justgiving.com/page/sam-faulkner-1712508280259?newPage=true&fbclid=IwAR2tyVVQVea0DLQelSsrp7Ie2CKjX0jXGnwndR_tBKL-Av2kv8f5nchEolw

Dilynwch ni: