Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn gwahodd cymunedau lleol i ymuno â Te Mawr y GIG i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn gwahodd pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gynnal eu Te Mawr GIG eu hunain ddydd Gwener 5 Gorffennaf, sef pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 76 oed.

Dan arweiniad NHS Charities Together, mae Te Mawr y GIG yn dod â’r genedl ynghyd i ddathlu’r pen-blwydd, gan ddiolch i weithlu’r GIG wrth godi arian i ddarparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar staff, cleifion a gwirfoddolwyr. Gall cymunedau ddathlu drwy wneud amser i de – trysor cenedlaethol arall.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yr elusen: “Mae’n gyfle gwych i ddathlu’r GIG wrth fwynhau cymdeithasu gyda phaned o de a chacen. Ac mae’n ffordd o godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol fel y gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff a chleifion ar draws y rhanbarth.

“Yn Elusennau Iechyd Hywel Dda rydym yn codi arian i ddarparu’r pethau ychwanegol arbennig hynny sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Gallai’r rhain gynnwys cysuron ychwanegol i gleifion, offer meddygol cyfoes, mentrau datblygu a llesiant staff, neu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion a staff.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwch chi ymuno â ni i godi paned i’r GIG!”

Gwahoddir cefnogwyr hefyd i godi arian yn y ffordd sy'n addas iddyn nhw. Er enghraifft, gallant fod yn actif a rhedeg, cerdded neu nofio 76 milltir; gallant gynnal parti ‘haf ‘76’; gallant gynnal diwrnod ‘gwisgo lan fel nyrs neu feddyg’ yn yr ysgol neu ddiwrnod dillad eich hun … mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Fel arall, os hoffech chi wneud cyfraniad, gallwch anfon neges destun LOVENHS i 70085 i roi £5. Neu gallwch gyfrannu unrhyw swm yr hoffech drwy anfon neges destun LOVENHS a’r swm yr hoffech ei gyfrannu: er enghraifft, LOVENHS 3 i gyfrannu £3, LOVENHS 10 i gyfrannu £10, ac ati.

I gael rhagor o wybodaeth am De Mawr y GIG, ewch i: Te Mawr y GIG - Elusennau Iechyd Hywel Dda, neu cysylltwch â’r elusen dros y ffôn ar 01267 239815 neu drwy e-bost yn:  CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: