Neidio i'r prif gynnwy

Staff yn derbyn hyfforddiant maetheg diolch i gronfeydd elusennol

Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Emma Hughes a Tesni Fakes, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu hyfforddiant maetheg ar gyfer dau aelod o staff.

Mae Emma Hughes a Tesni Fakes, sydd ill dau yn Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi, yn rhan o'r tîm gofal canolraddol yn Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Fe wnaethant fynychu cwrs rhithwir Maetheg a Chymorth Maeth ym mis Mawrth.

Dywedodd Tesni: “Roedd yn ddiwrnod buddiol iawn i gynyddu ein dealltwriaeth o’n rolau ond hefyd i ehangu ein gwybodaeth am egwyddorion maetheg. Mae hyn yn ein cefnogi i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad mwy penodol i grwpiau penodol, er enghraifft cleifion diabetig, llysieuwyr, cleifion sy'n cael trafferth gydag iselder.

“Roedd hefyd yn ffordd wych o gwrdd ag ymarferwyr eraill mewn rolau tebyg, i rannu ein profiadau a’n cyngor, sy’n werthfawr iawn i’r ddau ohonom.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: