Neidio i'r prif gynnwy

Clwb Ffermwyr Ifanc yn codi £2,000 i Ysbyty Glangwili

Yn y llun uchod: Staff gydag aelodau CFfI Llanfynydd.

 

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd wedi codi £1,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi a £1,000 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae gan CFfI Llanfynydd tua 40 o aelodau yn amrywio o 10 i 28 oed.

Dywedodd Carys Morgan, aelod o’r CFfI: “Fe wnaethon ni godi’r arian drwy ganu carolau dros gyfnod yr ŵyl yn 2022 a 2023. Rydyn ni’n mynd bob blwyddyn i godi arian ac rydyn ni’n mwynhau pob eiliad ohono.

“Roedd gennym ni gyn-aelod oedd wedi elwa o’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod ac roedd mam i un o’n haelodau wedi elwa o’r Uned Cemotherapi yng Nglangwili.

“Hoffem ddiolch i’r gymuned am eu haelioni.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud diolch yn fawr i CFfI Llanfynydd am eu cefnogaeth a chodi arian gwych i Ysbyty Glangwili.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: