Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr gwythiennau newydd ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip

Yn y llun gyda'r sganiwr newydd, o'r chwith i'r dde: Llawfeddyg Ymgynghorol Louis Fligelstone

a Thîm Cleifion Allanol Ysbyty Tywysog Philip.

 

Diolch i roddion hael, mae sganiwr fasgwlaidd newydd gwerth £30,000 wedi'i brynu ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip.

Mae’r sganiwr newydd wedi ei ariannu £20,000 gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a £10,000 gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanelli a’r Cylch.

Defnyddir y sganiwr cludadwy newydd i drin cleifion yn Hywel Dda sydd â phroblemau fasgwlaidd fel gwythiennau chwyddedig. Mae’n galluogi’r gwasanaeth sglerotherapi fasgwlaidd yn Ysbyty Tywysog Philip i gynnig triniaethau’n lleol, ond yn flaenorol, roedd cleifion Hywel Dda yn teithio i Fae Abertawe i gael triniaethau o’r fath.

Dywedodd Caroline Lewis, Rheolwr Darparu Gwasanaeth – Clust, Trwyn a Gwddf a Llawfeddygaeth Gyffredinol: “Rydym mor falch gyda’r offer newydd a fydd yn ein galluogi i ddarparu triniaeth yn lleol.

“Bydd y sganiwr yn gwella profiad y claf yn fawr, gan ddefnyddio technegau modern sy’n atal yr angen am anaestheteg ac adferiad hirfaith i’r claf.”

Dywedodd Martin Davies, Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanelli a’r Cylch: “Mae Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Tywysog Philip wedi cefnogi Ysbyty Tywysog Philip ers dros 50 mlynedd drwy ddarparu cyllid ar gyfer offer sy’n gwella’r gwasanaethau y gall y staff eu rhoi i gleifion er mwyn gwella eu harhosiad.

“Cysylltwyd â ni i gyfrannu tuag at gost y Sganiwr Fasgwlaidd ac nid oedd unrhyw oedi cyn rhoi £10,000 tuag at gyfanswm y gost. Dylid rhoi cydnabyddiaeth hefyd i bobl Llanelli a’r rhanbarth ehangach am eu haelioni parhaus mewn rhoddion i gefnogi eu hysbyty lleol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: